|
 |
Rheilffordd Ffestiniog yw'r cwmni rheilffordd
annibynnol hynaf yn y byd â chreuwyd gan Ddeddf
Seneddol ar Fai 23, 1832, cyn i Frenhines Fictoria
ddod i orsedd.
 |
|
'Back
in Black'... Earl Of Merioneth returns to service
following overhaul - More pictures
here. |
|
|
Adeiladwyd y
rheilffordd yn wreiddiol i gludo llechi o chwareli
Blaenau Ffestiniog, ac fel datblygodd y diwydiant,
datblygodd y rheilffordd a thref harbwr Porthmadog
hefyd. Allforwyd llechi Blaenau i borthladdoedd ar
draws y byd – rhan amlaf mewn llongau a’u
hadeiladwyd ym Mhorthmadog.
Profwyd y rheilffordd yn llwyddiannus iawn a
chyflwynodd nifer o atebion peirianneg i sicrhau ei
dyfiant ynglwm â thyfiant y chwareli, a chynnydd
ymdeithwyr ar y lein. Daeth peiriannwyr ar draws y
byd i astudio’r rheilffordd, ac fel canlyniad mae
Rheilffordd Ffestiniog wedi dylanwadu ar ddyluniadau
ac adeiladwaith rheilffyrdd mewn nifer o wahanol
wledydd.
Serch hynny - dros amser – ildiodd y diwydiant
llechi a gostyngodd y nifer o ymdeithwyr, nes caewyd
y rheilffordd yn 1946. Ond, ail-agorwyd y
rheilffordd yn 1954 o ganlyniad i ymdrech ac
ymroddiad brwdfrydig, di-ddadl, arloeswyr y
rheilffordd.
Dros yr hanner can mlynedd diwethaf mae Rheilffordd
Ffestiniog wedi datblygu’n flaenllaw yng ngadwraeth
rheilffyrdd, ac rydym, erbyn hyn, yn un o atyniadau
twristiaeth mwyaf Cymru, mewn ardal sy’n ffynnu ar y
diwydiant.
Mae digon o amrywiaeth i deithwyr drwy’r llennyrch a
glynnoedd gyda’u cymysgedd o heulwen a chysgod,
nentydd byrlymus a llynnoedd gloywon.
Mae’n trenau yn cynnig y cyfle euraid i ymlacio neu
i gerdded y mynyddoedd, ymweld â’r llynoedd ac i fod
yn ran o olygfeydd dramatig ac harddwch naturiol yr
ardal leol.
Rydym wrthi’n gweithio ar y fersiwn Gymraeg o’n
gwefan, a fydd yn cael ei ddatblygu’n raddol.
Dewch yn ôl yn rheolaidd i weld y newidiadau! |

There are no news items at present, please check back again soon.
| | |